“Jobyn anodd yw crynhoi pa mor arbennig yw Mudiad y Ffermwyr Ifanc, oherwydd mae’n Fudiad anhygoel, unigryw sydd yn cynnig gymaint o brofiadau a chyfleoedd i bobl ifanc”
Meinir Howells – Cyflwynydd Teledu
Cystadlaethau
Amdanom Ni
Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin yn fudiad ieuenctid sy’n darparu cyfleoedd i oddeutu 750 o aelodau rhwng 10 a 28 oed sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin. Mae 20 o glybiau yn Sir Gaerfyrddin sy’n cynnig amrywiaeth o brofiadau i ddatblygu sgiliau newydd, derbyn hyfforddiant gwerthfawr, teithio’r byd, dod yn rhan annatod o’r gymuned, a gwneud ffrindiau gydol oes.
Cofiwch – nid oes angen i chi fod yn ffermwr neu fod wedi dod o gefndir amaethyddol i ymuno â’r Clwb Ffermwyr Ifanc.
Ymunwch â Ni
Uchafbwynt calendr y CFfI. Yn cynnwys addurno blodau, tynnu’r gelyn, crefft, coginio, canu, dawnsio a pharatoi llo, ymysg nifer mwy.
Aelodau
Mared Roberts, CFfI Llangadog
Aelod Iau y Flwyddyn, 2025
“’Mae’r CFfI yn gyfuniad perffaith o hwyl, cyfeillgarwch a chyfleoedd newydd!”
