Amdanom Ni

Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin yn fudiad ieuenctid sy’n darparu cyfleoedd i oddeutu 750 o aelodau rhwng 10 a 28 oed sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin. Mae 20 o glybiau yn Sir Gaerfyrddin sy’n cynnig amrywiaeth o brofiadau i ddatblygu sgiliau newydd, derbyn hyfforddiant gwerthfawr, teithio’r byd, dod yn rhan annatod o’r gymuned, a gwneud ffrindiau gydol oes.

Cofiwch – nid oes angen i chi fod yn ffermwr neu fod wedi dod o gefndir amaethyddol i ymuno â’r Clwb Ffermwyr Ifanc.