Cystadlaethau Sir
Eisteddfod
Mae’r Eisteddfod yn ddathliad o gelfyddydau, iaith, a diwylliant Cymreig.
Chwaraeon Dan Dô
Dewch i ymuno mewn noswaith o gemau bwrdd, gan gynnwys dominos a drafftiau.
Ffair Aeaf
Noson o farnu stoc, crefft, paratoi anifail, a phrofi sgiliau coginio.
Beirniadu Carcas
Cynhelir yn Dunbia, Llanybydder.
Siarad Cyhoeddus
Siarad cyhoeddus yw’r grefft o gyflwyno gwybodaeth, syniadau neu negeseuon i gynulleidfa yn effeithiol. Mae’n cynnwys cyfathrebu hyderus, sgiliau cyflwyno diddorol, a’r gallu i gysylltu â gwrandawyr.
Cwis y Sir
Dewch i brofi eich sgiliau gwybodaeth gyffredinol yng Nghwis y Sir!
Aelod Iau a Hŷn
Cystadleuaeth i ddathlu ymroddiad aelodau’r Sir.
Wythnos Adloniant
Wythnos o Ddramâu, Pantomeim neu Hanner Awr o Adloniant.
Bowlio Deg Pin
Cystadleuaeth Sirol a gynhelir yn Xcel Bowl, Caerfyrddin
Llysgenhadon
Cystadleuaeth i anrhydeddu aelodau gweithgar o fewn y Sir.
Diwrnod Gwaith Maes
Diwrnod o gystadlaethau awyr agored yn cynnwys barnu stoc, creu arwydd i hyrwyddo’r Rali, gyrru tractor, a ffensio.
Rali
Uchafbwynt calendr y CFfI. Yn cynnwys addurno blodau, tynnu’r gelyn, crefft, coginio, canu, dawnsio a pharatoi llo, ymysg nifer mwy.
Chwaraeon ac Athletau
Diwrnod hwyliog gydag amrywiaeth o gystadlaethau i bob oedran.
Rygbi
Cyfle i arddangos eich sgiliau Rygbi 7-bob-ochr a ‘touch’.